Home Local News Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las
Local News

Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las

Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las
Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las - Cyhoeddwyd Mae rhagor o artistiaid wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni ac mae'r rhestr gychwynnol yn cynnwys dros gant o berfformwyr. Yn ogystal â'r llu o fandiau fydd yn ymddangos ar y gwahanol lwyfannau, mae'r cyhoeddiad fore Sadwrn yn cynnwys perfformwyr y celfyddydau gweledol a chomedi. Mae prif artistiaid Maes B eisoes wedi'u cyhoeddi, gan gynnwys rhai enwau cyfarwydd fel y Super Furry Animals, Elis James a Candelas a fydd yn perfformio ar Lwyfan y Maes - ond ymhlith y perfformwyr eraill mae Aleighcia Scott, Pedair, Bwncath a Huw Chiswell. Dywedodd yr Eisteddfod y bydd cyhoeddiad pellach a rhestr lawn o artistiaid a pherfformwyr ar gael o ganol fis Mehefin. Super Furry Animals fydd yn cloi'r nos Sadwrn cyntaf, gydag Alaw a Blodeugerdd ymysg y rhai eraill fydd yn perfformio. Ar ddydd Sul, mae Candelas, a fydd hefyd yn perfformio ar lwyfan Maes B, gyda Beirdd y Cilie, a Bois y Frenni i'w gweld hefyd. Welsh of the West End x Y Band Mawr fydd yn cloi'r adloniant ar lwyfan y Maes ar ddydd Llun, gyda Cowbois Rhos Botwnnog a Caryl Lewis yn perfformio hefyd. Ar ddydd Mawrth, mae Pedair yn dilyn Ar Log a Brwydr y Bandiau Gwerin. Elis James fydd yn perfformio ddydd Mercher yn dilyn Brwydr y Bandiau, Buddug a Bwncath. Ar ddydd Iau, Cordia fydd yn dod â'r noson i ben, gydag Aleighcia Scott a Morgan Elwy, Atgof o'r Ser a Catrin Feelings ymysg rhai o'r perfformwyr eraill. Y Bandana fydd yn perfformio olaf ar lwyfan y Maes ddydd Gwener, yn dilyn Carwyn Elis & Rio 18, Cyn Cwsg a Daf James. Yna ar ddiwrnod olaf y brifwyl, mi fydd modd gweld Fleur De Lys, Aled Gwyn Parc Nest, Aneirin Karadog & Eurig Salisbury, ac Ani Glass. Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: "Mae'r llu o artistiaid a pherfformwyr rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw yn rhoi blas o'r hyn fydd ar gael ar y Maes yn Eisteddfod y Garreg Las eleni – ac, wrth gwrs, mae'r cyfan wedi'i gynnwys ym mhris tocyn dydd, fel arfer. "Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgorau yn lleol am dros flwyddyn a hanner, ac mae pawb yn hynod o falch o allu datgelu heddiw pwy fydd yn ymddangos ar y Maes yn 2026." Dywedodd yr Eisteddfod fod y cyfle i brynu tocynnau bargen gynnar yn dod i ben nos Sul am hanner nos. Bydd Eisteddfod Y Garreg Las yn cael ei chynnal o 1-8 Awst. Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Originally published by BBC Wales Read original →